MyfanwyDAVIESDymuna Iorwerth, Llinos, Bryn a Haf a theulu Myfanwy Davies, Gwenallt, Glasfryn, ddiolch o waelod calon am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn dilyn eu colled drist. Diolch am yr holl ymweliadau, cardiau, negeseuon a galwadau ffôn sydd wedi bod yn gysur mawr ac am gymdogaeth dda yn gefn i ni fel teulu.
Diolch i bawb fu'n gyfrifol am y gwasanaeth hyfryd yng Nghapel Cefn Brith ac yn arbennig i'r Parch Huw Dylan, aelodau'r capel ac i Deiniol Jones a staff cwmni R.W.Roberts am eu trefniadau effeithlon.
Casglwyd cyfanswm anrhydeddus o fwy na £2300 o bunnoedd er cof am Myfanwy, a fydd yn cael ei rannu rhwng Hosbis Sant Cyndeyrn a Meddygfa Uwchaled, dau le agos at ein calonnau a fu mor ofalus ohoni. Diolch i bawb.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Myfanwy